GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

 

155 - Rheoliadau'r Rhaglen Hawliau, Cydraddoldeb a Dinasyddiaeth (Dirymu) (Ymadael â'r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 14 Hydref 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Nac ydynt

Y weithdrefn:

Gwneud cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amherthnasol

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 16

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol

Y weithdrefn

Gwneud cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.  Yn unol â pharagraff 5(2) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018, mae'r Ysgrifennydd Gwladol o'r farn ei bod yn angenrheidiol, oherwydd bod brys, i wneud y Rheoliadau heb i ddrafft gael ei osod gerbron y ddau Dŷ Seneddol, a chael ei gymeradwyo gan benderfyniad gan y ddau.

 

Mae'r offeryn yn dirymu Rheoliad (UE) Rhif 1381/2013 (y “Rheoliad”) Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 17 Rhagfyr 2013, gan sefydlu Rhaglen Hawliau, Cydraddoldeb a Dinasyddiaeth ar gyfer y cyfnod 2014 i 2020. Ei nod yw gwarchod a hyrwyddo hawliau a rhyddidau penodol unigolion o dan gyfraith yr UE.  Yn benodol, mae'n darparu cyllid ar gyfer prosiectau amrywiol.

 

Os bydd y Comisiwn Ewropeaidd, o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, yn peidio â darparu cyllid i gyfranogwyr y DU, mae'r offeryn yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu cymorth ariannol i wneud iawn am y diffyg.   Dim ond i brosiectau a sefydlwyd o dan y Rheoliad y bydd y ddarpariaeth yn berthnasol, a hynny pan roddwyd cyllid ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny, ond cyn 31 Rhagfyr 2020.  Felly, mae'r offeryn yn cael effaith drosiannol.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 16 Hydref 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).